top of page
Logo_Cynnig Cymraeg-02.jpg

Cynnig Cymraeg

Mae'n bleser gennym gyhoeddi fod Cynnig Cymraeg Adain wedi ei dderbyn a'i gymeradwyo gan Gomisiynydd y Gymraeg. 

​

Cynnig Cymraeg yw cydnabyddiaeth gan Gomisiynydd y Gymraeg i sefydliadau sydd wedi creu cynllun datblygu'r Gymraeg. Dyma gyfle i ddangos ein bod yn ymfalchïo yn yr iaith Gymraeg ac yn barod i'w defnyddio.

Dyma ein Cynnig Cymraeg:

  • Gwasanaeth cwbl Gymraeg. Cwmni Cymraeg yw Adain sydd wedi ei sefydlu i hybu’r Gymraeg ac i godi hyder busnesau i ddefnyddio mwy ar y Gymraeg yn ddigidol.

​

  • Rydym yn cynnig cymorth ac arweiniad gydag ysgrifennu cynnwys ar gyfer eich platfformau digidol, boed hynny yn wefan, yn gyfrifon cyfryngau cymdeithasol neu’r ymgyrch farchnata.

​

  • Mae’n bleser gan Adain i gydweithio efo busnesau a chynnal gweithdai neu hyfforddiant er mwyn codi hyder mewn elfennau o farchnata digidol dwyieithog.

​

  • Gyda dros 20 mlynedd o brofiad yn y maes, mae Adain yn cynnig gwasanaeth marchnata digidol dwyieithog yn cynnwys gwaith gwefan, cyfryngau cymdeithasol, dylunio ac ysgrifennu cynnwys.

​

  • Gallwn gynnig gwasanaeth ymgynghori lle byddwn yn edrych ar wahanol agweddau o’ch presenoldeb digidol a chynnig awgrymiadau ac arweiniad ar sut i wella a chynyddu eich cynnwys digidol dwyieithog.

Mwy am y Cynnig Cymraeg

Ydych chi'n cynnig gwasanaeth Gymraeg ac eisiau derbyn cydnabyddiaeth swyddogol gan Gomisiynydd y Gymraeg?

Logo_Cynnig Cymraeg-02.jpg
bottom of page