Diolch am yr ymateb - ceisiadau nawr ar gau.
HELPU BUSNESAU I NORMALEIDDIO'R GYMRAEG MEWN
MARCHNATA DIGIDOL
YDYCH CHI'N RHEDEG BUSNES?
Fyddech chi’n falch o gael help efo cynnwys digidol am ddim? Ydych chi’n ffeindio hi’n anodd cynnal eich busnes ar-lein yn y Gymraeg ac angen cymorth?
Ydych chi eisiau help i gryfhau eich cynnwys digidol drwy:
-
waith gwefan
-
waith cyfryngau cymdeithasol
-
gynnwys digidol
-
ffilmio a golygu
-
waith cyfieithu
-
gydweithio ar gynnwys digidol gyda busnesau/dylanwadwyr eraill
-
uwchsgilio staff yn y maes marchnata digidol?
Cronfa Her Arfor
Mae’n bleser gan Adain gyhoeddi ein bod wedi bod yn llwyddiannus yn ein cais am grant Cronfa Her Arfor, er mwyn cynnig help i fusnesau yn ardaloedd Arfor i gryfhau eu cynnwys digidol yn y Gymraeg/ddwyieithog.
Felly mae Adain yn awyddus i ddod o hyd i bedwar busnes i gymryd rhan yn ein peilot.
Fel rhan o’r peilot, bydd Adain yn dewis pedwar busnes o natur wahanol, i gyd o ardaloedd Arfor. Mi fyddwn yna yn asesu’r brand a’r busnes cyn cydweithio a’n partneriaid i gynnig pecyn Marchnata Digidol sydd wedi ei deilwra yn arbennig ar gyfer eich anghenion. Byddwn hefyd yn cynnig gweithdy i uwchsgilio’r busnesau a’u helpu i symud ymlaen ar ddiwedd y peilot. Hefyd fel rhan o’r peilot, byddwn yn dod o hyd i fusnes/unigolyn/dylanwadwr arall i gydweithio efo chi ar gynnwys digidol fydd o fudd i’r ddwy ochr.
Dyma ein partneriaid fydd yn cydweithio efo ni yn y peilot a fydd yn ein helpu i siapio eich cynnwys digidol: