GWASANAETHAU
Wedi ein lleoli yng ngogledd Cymru, rydym wrth ein boddau yn rhoi cymorth marchnata digidol i fusnesau Cymreig. Gyda blynyddoedd o brofiad yn y maes a drwy redeg ein busnesau bach ein hunain, rydym yn ymwybodol o’r heriau a’r sialensiau sy’n wynebu cwmnïau wrth sefydlu presenoldeb ar-lein. Rydym yn cynnig gwasanaeth wedi ei deilwra yn arbennig ar gyfer eich busnes chi. Ein nod yw eich helpu i gysylltu gyda’ch cynulleidfa darged yn y Gymraeg a’r Saesneg, adeiladu ar ymwybyddiaeth eich brand a chyrraedd eich targedau marchnata ar-lein. Gydag ein harbenigedd a’n profiad ni am bopeth digidol, a'ch angerdd chi tuag at eich busnes, rydym yn siŵr o gydweithio'n dda.
Gwaith Gwefan
Mae Adain yn cynnig cymorth gyda sawl agwedd o waith gwefan i helpu busnesau Cymreig i gysylltu gyda'u cwsmeriaid yn ddwyieithog. Os ydych eisiau creu gwefan o’r newydd, neu edrych i wella'r hyn sydd gennych o ran edrychiad neu berfformiad, rydym yma i’ch helpu.
​
Rydym yn deall fod optimeiddio cynnwys yn ogystal â chadw gwefan yn gyfredol yn cymryd amser. Drwy adael i ni helpu gyda’ch gwefan, bydd mwy o amser i chi ganolbwyntio ar elfennau eraill o’r busnes.​
Gadewch i ni gydweithio i fynd â’ch busnes ar-lein gyda gwefan broffesiynol a dwyieithog a fydd yn ddeniadol i’ch cwsmer.
Cyfryngau Cymdeithasol
Methu'n glir a chael amser i bostio ar y cyfryngau cymdeithasol? Er bod cael presenoldeb a chynnwys cyson ar-lein yn bwysig i gadw eich brand yn fyw, gall hefyd gymryd dipyn o amser. Rydym wedi helpu busnesau i rannu'r baich drwy gynnig pecynnau cyfryngau cymdeithasol ble mae Adain yn cymryd yr awenau am gyfnod neu'n rhannu'r gwaith.
Tynnu Lluniau, Ffilmio a Golygu
Mae gennym flynyddoedd o brofiad mewn creu fideos byr ar gyfer marchnata. Rydym yn cynnig pecyn sy'n cynnwys tynnu lluniau, ffilmio a golygu er mwyn creu fideos byr i'w cynnwys ar eich gwefan neu gyfryngau cymdeithasol.
Ysgrifennu Cynnwys
Os ydych eisiau cymorth i ysgrifennu cynnwys addas ar gyfer eich cynulleidfa darged yn y Gymraeg neu'r Saesneg, boed hynny ar ffurf newyddlen, cynnwys gwefan, blogiau neu gyfryngau cymdeithasol, cysylltwch â ni.
Cyfieithu a Phrawfddarllen
Mae cynnig gwasanaeth yn ddwyieithog yn bwysig iawn i nifer o fusnesau yng Nghymru, ond nid pawb sy'n hyderus yn y ddwy iaith. Os hoffech i ni gyfieithu darnau o waith, y wefan gyfan, neu brawfddarllen eich cynnwys, cysylltwch i drafod.
Gwaith Dylunio
Gall Adain gynnig cymorth gyda gwaith dylunio i'ch helpu chi ddefnyddio eich brand i ledaenu eich neges marchnata. Cysylltwch i drafod.
Adolygiad Gwefan
Oes gennych chi wefan yn barod ond ddim yn siwr os ydi'n cyflawni ei nod? Gall Adain edrych ar eich gwefan o berspectif y defnyddiwr yn ogystal ag edrych ar SEO a hygyrchedd, ac yna cynnig adborth ac awgrymiadau ar sut gallwch ei gwella a'i chryfhau.
Ymgynghori Brand
Os nad ydych chi'n siŵr iawn lle i gychwyn gyda marchnata digidol, fe allwn ddarparu argymhellion i chi o sut y gallwch symud eich busnes ymlaen ar-lein a chodi ymwybyddiaeth o'ch brand a'ch busnes.