top of page
Logo Adain

ADAIN: RHOI HWB I FUSNESAU GYDA GWEFANNAU A MARCHNATA DIGIDOL

GWASANAETHAU

Mae'r elfen ddigidol o'ch busnes yn holl bwysig i gadw'r brand yn fyw. Gall Adain eich helpu efo sawl agwedd o farchnata digidol gan ryddhau eich amser i chi allu canolbwyntio ar eich cwsmeriaid. O ysgrifennu cynnwys a gwaith cyfieithu i ddylunio gwefan a gwaith cyfryngau cymdeithasol, mae Adain yma i'ch helpu.

PROSIECTAU

Mae Adain wedi cael y pleser o weithio efo sawl busnes a dod i ddysgu mwy am y gwaith anhygoel mae nhw'n ei wneud. Rydym wrth ein boddau yn cydweithio efo busnesau bach Cymreig gan roi hwb iddynt wireddu eu potensial. O wasanaethau harddwch, i dimau pêl-droed, rydym yn agored i unrhyw sialens!

AMDANOM NI

​

Helo! Anwen a Gwenan sydd yma a ni’n dwy sydd tu ôl i gwmni Adain. Gyda dros 20 mlynedd o brofiad yr un yn y maes marchnata digidol a chreu cynnwys dwyieithog, rydym wedi creu Adain er mwyn rhoi hwb i fusnesau bach Cymru. Os ydych eisiau ychydig o gymorth gyda gwaith gwefan, cyfryngau cymdeithasol, ysgrifennu cynnwys, cyfieithu, prawf ddarllen neu farchnata’r brand yn gyffredinol, gall Adain eich helpu. 

​

Rydym wrth ein boddau yn dod i wybod mwy am eich busnes a gweld sut y gallwn eich helpu i greu cynnwys digidol er mwyn eich busnes fynd o nerth i nerth. Y gobaith ydi codi eich hyder a llenwi'r bylchau fel eich bod yn gallu cynnig y gwasanaeth orau bosib i'ch cwsmeriaid, a hynny yn ddwyieithog.


Os ydych chi'n cael trafferth i ddod o hyd i amser i wneud gwaith marchnata digidol neu ddim yn siŵr lle i gychwyn, cysylltwch am sgwrs.

​

​

​

IMG_4059.jpg

ADBORTH

"Mae’r ddwy lejand yma wedi gweithio’n andros o galed i gynllunio a chreu gwefan newydd sbon i fy musnes www.lolfalois.com. Maent yn ferched proffesiynol sydd â sgiliau technoleg anhygoel a does dim byd yn drafferth iddynt- sefydlu gwefan, ffilmio, tynnu lluniau a lot mwy!! O’r cyfarfod cyntaf mae nhw wedi deall yn union beth oedd fy uchelgais i ynglÅ·n â sefydlu gwefan, wedi gwrando ac wedi dod a mwy o syniadau anhygoel i’r cynllun."

Lolfa Lois

Lois Angharad

Contact

CYSYLLTU

Diolch yn fawr!

bottom of page